Click this Coleg Harlech logo to visit their Website

Telerau Busnes Neuadd Breswyl

Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n mwynhau seibiant haeddiannol yn Neuadd Breswyl Coleg Harlech.

Byddwch cystal â chymryd ychydig o amser i ddarllen y wybodaeth isod i sicrhau eich bod chi’n deall y telerau busnes ar gyfer y llety er mwyn osgoi unrhyw siom.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, neu unrhyw geisiadau arbennig, peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni i’w trafod.  Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eich bod chi’n mwynhau eich amser yma.

cartref llety lleoliad cysylltu bwcio cynhadledd cysylltau
saesneg

Telerau Busnes Neuadd Breswyl

  1. Mae angen blaendal o £10 arnom, na chaiff ei ddychwelyd, i gadw’r llety.  Ar ôl derbyn hwn, anfonir e-bost atoch i gadarnhau eich bwciad o fewn 24 awr.
  2. Rhaid bwcio 2 noson o leiaf.
  3. Rhaid talu am y llety’n llawn 6 wythnos cyn eich dyddiad cyrraedd.
  4. Os na allwch ddod, ni roddir ad-daliad oni bai bod rhywun arall yn bwcio’r wythnos(au) dan sylw.  Os yw hyn yn digwydd, ad-delir y swm llawn ar ôl tynnu’r blaendal a ffi weinyddu o £5.
  5. Efallai y bydd yn bosibl bwcio cyfnod gwahanol os oes lle ar gael.  Argymhellir y dylech drefnu yswiriant gwyliau i’ch diogelu eich hun rhag unrhyw golledion yn y cyswllt hwn.
  6. Dim ond y nifer a ddatgenir a all aros yn y neuadd, hyd at uchafswm o 80.Ni roddir ad-daliad os nad yw’r nifer o westeion a nodwyd yn cyrraedd
  7. Cynhwysir trydan yn y pris.
  8. Ni chaniateir ysmygu o dan unrhyw amgylchiadau.
  9. Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
  10. Darperir dillad gwely ond bydd angen i chi ddod â’ch tyweli eich hun.
  11. Mae cotiau a chadeiriau uchel ar gael.
  12. Dylech gyrraedd ar ôl 2.30 pm ar y Dydd Sadwrn cyntaf.
  13. Gofynnir i westeion adael erbyn 10.00 am ar y dyddiad ymadael.
  14. Mae bwciadau at ddibenion gwyliau’n unig ac ni allant roi bod i denantiaeth.
  15. Ni all y gwyliau gael eu prynu a’u gwerthu am bris uwch.
  16. Ni chaniateir defnydd masnachol o’r adeilad hwn oni cheir caniatâd ysgrifenedig.
  17. Caiff yr ystafelloedd eu harchwilio, fan hwyraf, o fewn diwrnod i’ch dyddiad ymadael.  Os oes unrhyw ddifrod, rhoddir gwybod i chi mewn ysgrifen a gofynnir i chi dalu am y gwaith trwsio sydd ei angen.

Byddwch cystal â sylwi: ein polisi safonol yw na fyddwn yn gadael i neb ddod i’r llety hyd nes i ni dderbyn y taliad llawn.