- Mae angen blaendal o £60 arnom, na chaiff ei ddychwelyd, i gadw’r llety. Ar ôl derbyn hwn, anfonir e-bost atoch i gadarnhau eich bwciad o fewn 24 awr.
- Rhaid talu am y llety’n llawn 6 wythnos cyn eich dyddiad cyrraedd.
- Bydd yn rhaid talu blaendal rhag difrod o £100 gyda siec ar wahân wrth wneud y taliad terfynol. Ni fydd y siec hon yn cael ei chyflwyno oni achosir difrod i’r eiddo (gw. Pwynt 17).
- Os na allwch ddod, ni roddir ad-daliad oni bai bod rhywun arall yn bwcio’r wythnos(au) dan sylw. Os yw hyn yn digwydd, ad-delir y swm llawn ar ôl tynnu’r blaendal a ffi weinyddu o £5.
- Efallai y bydd yn bosibl bwcio cyfnod gwahanol os oes lle ar gael. Argymhellir y dylech drefnu yswiriant gwyliau i’ch diogelu eich hun rhag unrhyw golledion yn y cyswllt hwn.
- Dim ond y nifer a ddatgenir a all aros yn y ty, hyd at uchafswm o 19.
- Cynhwysir trydan yn y pris.
- Ni chaniateir ysmygu o dan unrhyw amgylchiadau.
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
- Darperir dillad gwely ond bydd angen i chi ddod â’ch tyweli eich hun.
- Mae cotiau a chadeiriau uchel ar gael.
- Dylech gyrraedd ar ôl 2.30 pm ar y Dydd Sadwrn cyntaf.
- Gofynnir i westeion adael erbyn 10.00 am ar y dyddiad ymadael.
- Mae bwciadau at ddibenion gwyliau’n unig ac ni allant roi bod i denantiaeth.
- Ni all y gwyliau gael eu prynu a’u gwerthu am bris uwch.
- Ni chaniateir defnydd masnachol o’r adeilad hwn oni cheir caniatâd ysgrifenedig.
- Caiff yr ystafelloedd eu harchwilio, fan hwyraf, o fewn diwrnod i’ch dyddiad ymadael. Os oes unrhyw ddifrod, rhoddir gwybod i chi mewn ysgrifen a gofynnir i chi dalu am y gwaith trwsio sydd ei angen
Byddwch cystal â sylwi: ein polisi safonol yw na fyddwn yn gadael i neb ddod i’r llety hyd nes i ni dderbyn y taliad llawn. |
|