Click this Coleg Harlech logo to visit their Website

Lleoliad

Mae llety gwyliau Harlech ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ardal sy’n hafan i bawb sy’n mwynhau cerdded, hwylio, merlota neu feicio.

Mae Castell Harlech, a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan y Cenhedloedd Unedig, gerllaw, a hefyd Theatr Ardudwy lle y cynhelir amrywiaeth eang o adloniant byw a ffilmiau.

(Ffoto gan Wales Tourist Board)

cartref llety lleoliad cysylltu bwcio cynhadledd cysylltau
saesneg

 

The sandy beach at Harlech is overlooked by Harlech College.

Mae’r llynnoedd uwchben Harlech yn ardderchog ar gyfer pysgota am frithyllod a gellir pysgota am ddraenogiaid y môr yn aml oddi ar y traethau lleol.  (I gael gwybodaeth am drwyddedau, cysyllter â Swyddfa Bost Harlech.)  Mae Cwrs Golff Royal St David's oddeutu chwarter milltir i ffwrdd.  Ystyrir mai hwn yw’r maes golff gorau yng Ngogledd Cymru a chyfeirir ato fel y safon 63 mwyaf anodd yn y byd.

Os hoffech gael diwrnod allan, beth am fwynhau taith ar y trên bach o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, neu ewch ar drên ar y brif reilffordd ar hyd yr arfordir prydferth rhwng Pwllheli a Machynlleth

Across Tremodog bay to the Llyn Peninsula.

Mae Pentref Eidalaidd Portmeirion gerllaw, lle y ffilmiwyd cyfres enwog The Prisoner yn y 1960au.  Mae hwn, a’r Ceudyllau Llechi yn Llanfair, yn lleoedd gwych i dreulio’r diwrnod.

Mae’n werth mynd i Abermo hefyd i ymweld â’r siopau diddorol a’r traeth baner las.  Hefyd cynhelir ras y tri chopa yma bob mis Mehefin
Panaramic view of Harlech Castle and environs