- AMae Neuadd Breswyl Coleg Harlech yn dwr unarddeg llawr ger prif adeilad y Coleg (sy’n cynnwys y swyddfeydd gweinyddol, y llyfrgell, yr ystafelloedd addysgu a’r theatr). Lleolir y Stiwdio Gelf ac adeilad y Cyfleusterau gerllaw. Mae’r neuadd breswyl tua chwarter milltir o Orsaf Harlech, ac mae rhan ohoni i fyny bryn serth. Er nad yw’r bysiau yn rhedeg yn aml, y maent yn stopio’n agos iawn at yr adeilad..
- ae’r neuadd breswyl yn hygyrch i gadeiriau olwyn dim ond o’r fynedfa ar y llawr daear ger y maes parcio. Mae lifft yn yr adeilad sy’n darparu mynediad i bob llawr sy’n cynnwys y ffreutur ar lawr 6 a’r ystafell gyffredin ar lawr 7. Ceir dwy fynedfa arall i’r adeilad ar lawr 7 a llawr 3 ond mae grisiau at y ddwy. .
- Mae gan y llawr daear, y tybir sydd fwyaf addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, bump o ystafelloedd sengl a dwy ystafell gyda dau wely ynddynt ond nid oes ganddynt gyfleusterau en suite. Mae gan un o’r ystafelloedd gyda dau wely ynddynt dapiau gyda liferi arnynt a gorchuddion i’r rheiddiaduron. Mae ystafell debyg ar bob un o loriau’r Neuadd Breswyl. Ond nid oes gan y llawr hwn nac unrhyw lawr arall yn yr adeilad gyfleusterau i letya rhywun sy’n gwbl gaeth i gadair olwyn.
- Dim ond un toiled sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sydd ar seithfed llawr yr adeilad. Ond mae gan bob llawr yn yr ystafelloedd dosbarth un toiled uchel sy’n addas ar gyfer pobl gydag mân anableddau, yr henoed a’r bregus.
- Mae gan un llofft gyda dau wely ynddi ar bob un o loriau’r llofftydd obenyddion sy’n dirgrynu i ddeffro’r sawl sy’n cysgu yno pe bai tân yn digwydd.
- Mae gan y ffreutur a’r ystafell gyffredin ddewis o gadeiriau esmwyth a gymeradwywyd gan DDA.
- Mae dolenni clywed cludadwy ar gael, ond bydd angen rhybudd ymlaen llaw i’w gosod. Mae dolen clyw ar gael bob amser yn y ffreutur.
- Mae lle parcio penodol ar gyfer gyrwyr anabl yn y maes parcio ger y fynedfa i’r Neuadd Breswyl. Mae lleoedd parcio i’r anabl hefyd ar gael ger y fynedfa i’r prif adeilad. O’r ardal hon mae’n bosibl mynd i mewn i’r prif adeilad drwy gyfrwng lifft neu ramp yn y buarth.
- Mae CAG Coleg Harlech wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i fyfyrwyr ac ymwelwyr a bydd yn cynorthwyo ym mhob ffordd bosibl. Cofiwch ofyn am gyngor.
|
Mae staff Coleg Harlech wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n holl fyfyrwyr ac ymwelwyr, ac maent yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.
Cofiwch ddweud os oes angen cymorth arnoch. Gall y datganiad hwn, a llenyddiaeth arall, gael ei ddarparu mewn fformat mawr, ac mae ar gael drwy’r post, drwy ffacs ac yn electronig. |