| cartref | llety | lleoliad | cysylltu | bwcio | cynhadledd | cysylltau | |
|
Mae Crown Lodge, Harlech, Eryri yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr a theuluoedd, ac ar gyfer cynnal aduniadau. Mae wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae rhai o’r ystafelloedd yn edrych allan dros Fae Tremadog. Mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored. Mae traeth tywodlyd Harlech yn ymestyn am filltiroedd ac yn ddiogel ar gyfer ymdrochi. Mae cwrs golff Royal St David’s gerllaw. Mae tref Harlech o fewn pellter cerdded hwylus ac mae yma nifer o dafarndai, caffis a siopau bach. Gellir prynu bwyd yn y siop Spar leol neu yn Tesco a Lidl ym Mhorthmadog (10 milltir i ffwrdd), neu yn y Co-op yn Abermo (10 milltir i ffwrdd). |
|
![]() |
||
|
Mae’r gegin yn cynnwys popty, oergell, rhewgell, microdon, peiriant golchi, peiriant sychu dillad a pheiriant golchi llestri. Mae yma lolfa fawr lle ceir teledu, dvd a fideo. Mae ffôn talu ar gael.
|
|
I holi am drefnu lle neu i gael gwybodaeth bellach, ewch i’r dudalen gysylltu: : cystyllu
|
![]() |
|