- Adeilad mawr deulawr ar ei dir ei hun yw Crown Lodge sy’n
edrych dros dref Harlech. Mae’r lôn i fyny at y
ty wedi’i goleuo’n dda, ond mae’n weddol anwastad,
a gall achosi peth anhawster i bobl gyda nam ar eu golwg neu bobl
sy’n cael trafferth symud. Mae maes parcio mawr ar gael. Mae
Crown Lodge tua ¾ milltir o Orsaf Harlech, i fyny gallt serth. Mae
gwasanaeth bysiau cyfyngedig yn mynd heibio’r adeilad. Mae
Crown Lodge o fewn pellter cerdded i siopau Harlech, ar hyd ffyrdd
cul.
- Mae mynediad i gadeiriau olwyn yng nghefn Crown Lodge, ac mae ystafell en-suite sy’n
addas i gadair olwyn ar y llawr daear. Ceir llofftydd eraill
ar y llawr daear ond nid ydynt yn addas i gadair olwyn. Nid
oes lifft yn yr adeilad, ac mae’n rhaid dringo’r grisiau
i fynd i fyny i’r ail lawr. Mae Crown Lodge yn adeilad
helaeth, ac mae’r ystafelloedd cyhoeddus yn fawr a golau.
- Ceir toiled i’r anabl a ffôn cyhoeddus ar y llawr daear.
- Mae derbyniad da ar gyfer ffonau symudol yn yr ardal.
- Mae croeso i gwn cymorth, ac er nad oes lle i’w hymarfer
yn y gerddi, mae digonedd o le ar gyfer hyn yn yr ardal o gwmpas.
- Mae dolen glywed gludadwy ar gael, ond bydd angen rhoi gwybod i
ni ymlaen llaw gan y bydd angen ei gosod.
- Mae larwm gobennydd dirgrynol ar gael i roi rhybudd os bydd y larwm
tân yn canu yn ystod y nos.
- I’r rhai hynny nad ydynt yn cymryd y dewis hunanarlwyo, gallwn
gwrdd ag ystod eang o anghenion dietegol.
- Mae staff Coleg Harlech wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth
gorau posibl i’n holl fyfyrwyr ac ymwelwyr, ac maent yn barod
i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.
- Mae staff Coleg Harlech wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n holl fyfyrwyr ac ymwelwyr, ac maent yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.
Cofiwch ddweud os oes angen cymorth arnoch.
|
Gall y datganiad hwn, a llenyddiaeth arall, gael ei ddarparu mewn fformat mawr, ac mae ar gael drwy’r post, drwy ffacs ac yn electronig. |